Annwyl gyfeillion,
Rydw i wedi penderfynu creu'r blog yma ar ol gosod her i fi fy hun o brynu popeth yn Gymraeg am flwyddyn gyfan. Hynny ydy, dillad, pethau mewn caffis, siopau amrywiol, ticedi chwaraeon ayyb - yn y bon POPETH! Byddaf yn atodi clipiau fideo/sain wrth i fi geisio defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd i gofnodi'r hyn sy'n digwydd.
Byddaf hefyd yn rhoi adroddiadau byrion yn ogystal a'r clip. Ar ol gweld cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg mae'n amser i ni benderfynu o ddifri os ydyn ni am weld y Gymraeg yn llwyddo fel iaith naturiol y genedl neu adael i'r Gymraeg fynd yn angof...
Mwynhewch y blog - dydw i ddim yn arbennigwr technolegol felly ymddiheuriadau am unrhyw broblemau technegol. Byddaf yn rhoi'r clipiau cyntaf a wnaethpwyd yng Nghaerdydd ar y wefan cyn cynted a phosib!
Diolch - Dros Gymru!
John Vaughan Williams